Yngl?n â’r Gwasanaeth eAML2

Mae’r eAML2 yn fersiwn electronig o’r drwydded symud moch (AML2).
Mae hefyd yn cyfuno’r AML2 a ffurflenni papur Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) sydd eu hangen wrth symud moch i’w lladd, a thrwy hynny’n arbed amser a biwrocratiaeth i chi.

Beth fydd y manteision i mi a’r diwydiant moch?

  • Arbed amser a gwaith – does dim angen i chi lenwi’r un wybodaeth eto ac eto gan fydd y system yn poblogi o flaen llaw eich gwybodaeth yn awtomatig
  • Arbed mwy o amser yn ystod archwiliadau Safonau Masnach – mae’ch symudiadau yn cael eu storio’n electronig ac maent i gyd mewn un lle
  • Arbed arian: does dim angen i ladd-dai anfon unrhyw gopïau o’r AML2 at Safonau Masnach oherwydd cânt eu llwytho i fyny’n awtomatig
  • Bydd eich adroddiadau carcas (CCIR) yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost yn awtomatig o fewn 48 awr
  • Am y tro cyntaf bydd y diwydiant yn cael cofrestr buches realistig er mwyn galluogi cyfathrebiad a rheolaeth gwell pe bai achos o glefyd

Beth sydd angen arnaf?

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim a does dim angen i chi osod unrhyw feddalwedd ar eich cyfrifiadur.
Gall cynhyrchwyr sydd â defnydd o gyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd drefnu symudiadau yn awr trwy ddefnyddio’r wefan hon. Yn fuan, bydd cynhyrchwyr sydd heb gyfrifiadur a mynediad i’r rhyngrwyd yn gallu cael eu AML2 wedi’i gosod drwy BPEX yn rhad ac am ddim, drwy grwpiau marchnata neu drwy Gymdeithas Foch Prydain. Bydd BPEX yn cyhoeddi yn y wasg ac ar y wefan hon pan fydd y gwasanaeth trydydd parti ar gael.
Ar hyn o bryd mae’r eAML2 ar gael ar gyfer symudiadau o’r fferm i ladd-dy yn unig, gyda symudiadau eraill megis fferm i fferm/marchnad/sioe/mewnforio/allforio i ddilyn nes ymlaen yn 2012.

A yw fy lladd-dy yn cymryd rhan?

Rydym wedi profi’r gwasanaeth ers hydref 2009 gyda 14 lladd-dy mawr, arbenigol, ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n recriwtio mwy o ladd-dai annibynnol. Os ydych yn dod â moch i un o’r lladd-dai isod byddwch yn awr yn gallu defnyddio’r gwasanaeth eAML2. Os nad ydynt eto ar y rhestr - cadwch olwg allan!
Cheale Meats Ltd
Cranswick Country Foods, Preston
Cranswick Country Foods, Norfolk
C Snell Wholesale, Gwlad yr Haf
Ensors Gloucestershire Ltd
FA Gill Ltd
G Wood & Sons Ltd
GR Evans & Co, Corwen
HG Blake Ltd
HP Westwood, Burntwood
McIntyre Meats Ltd
Neerock Ltd t/a Woodhead Bros Meat Co, Swydd Gaerhirfryn
Tulip, Dukinfield
Tulip (G Adams & Sons yn flaenorol), Spalding
Tulip, Westerleigh
Vion, Haverhill
Vion, Malton
Vion, Wiveliscombe
Woodhead Bros Ltd, Spalding
W Taylor & Son Ltd

Cael eich cofrestru:

Does dim angen i ddefnyddwyr sydd eisoes yn defnyddio gwasanaeth Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) ar-lein BPEX gofrestru eto, ond gallant ddefnyddio’r un enw defnyddiwr a chyfrinair. Pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth eAML2 does dim angen i chi fynd i wefan FCI hefyd – bydd yr wybodaeth wedi cael ei rhoi’n barod.
I gofrestru cliciwch ar y botwm glas “Cofrestru Cynhyrchydd” yn hafan www.eaml2.org.uk a rhowch eich manylion. Bydd enw defnyddiwr a chyfrinair yn cael eu hanfon atoch mewn e-bost yn fuan – a rydych yn barod i fynd! 
Llinell Gymorth BPEX: 0844 335 8400 neu cliciwch yma i gysylltu â ni drwy e-bost.(Llun-Gwener 9.00yb – 5.00yh)
Bydd y Canllawiau Cychwyn Cyflym isod yn eich helpu i ddechrau arni:
Canllaw i Ladd-dai
Canllaw cyflym i ladd-dai ac FBO’s i’w helpu i gael y gorau allan o’r system AML2 electronig.
Canllaw i Gofrestru Pen Digidol
Cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth Pen a Phapur Digidol.
Canllaw Cyflym i Awdurdodau Lleol
Cyfarwyddiadau syml ar sut i gael mynediad at wasanaeth AML2 electronig BPEX a’i ddefnyddio.
Canllaw i Gynhyrchydd
Canllaw cychwyn cyflym i gynhyrchwyr ar sut i ddefnyddio gwasanaeth AML2 electronig BPEX.